Y Gêmau Olympaidd a Champau'r Cymry
Cyfrol i ddathlu ymweliad y Gêmau Olympaidd â Llundain 2012. O'r seremoni agoriadol ar 27 Gorffennaf hyd at y cloi ar 12 Awst, bydd athletwyr o bob cwr o'r byd yn cystadlu mewn amrywiol gampau. Mae'r llyfr lliwgar hwn yn fwrlwm o ffeithiau difyr ac yn cynnwys rhai o hanesion mwyaf diddorol ac anhygoel y Gêmau dros y blynyddoedd. Enillydd gwobr Tir na n-Og 2013.