Mae Cadw Drws yn dyst huawdl i ddawn awen y Prifardd Meirion Evans.
Canlyniad anogaeth Hywel Teifi Edwards ar ei gyfaill mynwesol i gyhoeddi ei waith yw'r gyfrol hon; bu Huw Edwards ond yn rhy falch i gyfrannu Rhagair er cof am ei dad ac yn deyrnged i gyfeillgarwch Meirion a Hywel.
Daw Meirion o Felindre, Abertawe ac mae marc y glo yn drwm ar ei waith. Bydd rhai yn ei adnabod fel gweinidog a chyn-archdderwydd; daw darllenwyr y gyfrol hon i'w adnabod fel gŵr sy'n canu am ffydd, cyfeillgarwch, teulu, gorffennol gwyn, presennol lliwgar, dyfodol gobeithiol - a chriced