Cyfres Dewin: Ar Lan y Môr
Stori am hoff gymeriadau'r cylch meithrin, Dewin a Doti, a ddaw i lawr o'r Balalwn yn yr awyr i gwrdd â'u ffrindiau. Mae'n ddiwrnod braf ac mae Dewin a Doti wedi dod i weld y plant sy'n brysur yn chwarae yn y pwll tywod. Mae Dewin yn tynnu bwced a rhaw allan o'i het ac yn holi 'Beth am adeiladu castell tywod anferth?'