Cyfres Dewin: Ffrindiau'r Goedwig
Stori am hoff gymeriadau'r cylch meithrin - Dewin a Doti a ddaw i lawr o'r Balalwn yn yr awyr i gyfarfod â'u ffrindiau. Holi Dewin wna'r plant am gynnwys ei het heddiw - pecyn o hadau a phot blodau. 'Rho nhw yn y pot blodau Dewin!' meddai'r plant . 'Fe fydd planhigyn neu flodyn pert yn tyfu ynddo wedyn.' Wedi tasgu ei sêr hudol dros y potyn, gwelir coed gwyrdd tal yn tyfu ym mhobman!