Full Moon
Merch yn ei harddegau yw Nia, ac mae'n nodweddiadol o ferch yn ei harddegau - mae'n hoffi colur a bechgyn, a dyw hi ddim yn hoff o waith cartref. Ond un noson olau leuad, mae'n dod ar draws creadur ffyrnig a fydd yn newid ei bywyd am byth. Beth yw'r cysylltiad rhwng yr anghenfil a'r dieithryn yn nhŷ ei modryb? A pham taw dim ond adeg lleuad lawn y mae'n ymddangos?