Y pumed gyfrol yn y gyfres wreiddiol a phoblogaidd sy'n cyflwyno hanes Cymru yn ddoniol a difyr i blant.
Mae pawb yn adnabod rhyw ddihiryn diflas neu gymeriad chwithig, ond tybed a ydych chi wedi dod ar draws rhai mor ddychrynllyd o ddieflig ac eithriadol o eithafol â'r rhai sydd â'u hanesion atgas i'w canfod o fewn y tudalennau hyn? Dyma gyfrol i'w chuddio oddi wrth eich athrawon hanes busneslyd, rhag iddyn nhw hefyd ddod i wybod:
* Sawl pen oedd gan Dewi Sant?
* Pam nad oedd Barti Ddu yn ymosod ar longau ar ddydd Sul?
* Beth yw'r holl waed sy'n llifo ymhob rhan o Gymru?
Cyfrol sy'n llawn straeon am dwyllwyr tan-gamp, troseddwyr trychinebus, collwyr ciami, menywod mileinig, caethweision cywilyddus, derwyddon dramatig, llofruddion lloerig, môr-ladron mentrus, gwrecwyr gwrthun, smyglwyr syfrdanol a Chymru cŵl. Tybed faint ohonyn nhw sy'n perthyn i chi?
Mae'r wybodaeth i gyd yn Dihirod Diflas a Chymeriadau Chwithig.
Chewch chi mo'ch siomi