Aclwy maw!Mae Wil Bach Saer yn wael. Yn 'sbyty, dim llai! Faif-ffwt-wàn-and-ê-hâff o hunandybiaeth ar wastad ei gefn. Heb ei sanau. Ond nid yw anhwylder yn rhwystro Wil rhag cynnig sylw ar bawb a phob-un-dim. O na. Yn hytrach mae'r yndyrtêcyr moel yn achub ar y cyfle i bwyso a mesur pawb, gydag un llygad ar gwsmeriaid posibl. Wrth wrando ar Wil yn pontifficetio am Moses y gweinidog, Mêt Monti, Cochyn y portar, yr hogan glws hyll, a'r doctors a'r nyrsus - a'u hymateb nhw iddo fo - rydyn ni'n gwrando ar sylwadau perthnasol iawn am ein Cymru gyfoes. Ac yn chwerthin ei hochr hi. A'r iaith? Asu, mi fyddai Wili Welsh, Ysgol Llanlleidiog gynt yn rhoi tenowt-o-ten iddi. Un sgut am ddyf-têls ac arddodiaid fu Wil Saer erioed.