Mae nain, mam a merch yn byw o dan yr unto. Wrth ddilyn eu helyntion dros flwyddyn, cyflwynir golwg gadarnhaol ar bosibiliadau bywyd - cyhyd â bod y glöyn byw hwnnw'n ofalus . . . Ar drothwy ei deg a thrigain, y petai a'r petasai sy'n poeni Megan, y nain sy'n gresynu na fu iddi 'fyw' digon. Ar y llaw arall, mae Eira Mai, ei hwyres sydd yn y chweched dosbarth, yn byw bywyd i'r eithaf. Rhan o ofid Rhiannon ei mam, a ddewisodd fagu Eira Mai ar ei phen ei hun, yw y gallai cusan a oedd mor ysgafn â chyffyrddiad adenydd glöyn byw gan athro ddifetha popeth i'w merch. Mae'r awdur yn ein gorfodi i ystyried agweddau gwahanol genedlaethau at ryw, at foesoldeb ehanghach, at gyfrifoldebau'r unigolyn - ac at hap curiad adenydd brau.