Dathlu agor Llwybr Arfordir Cymru yn gyflawn o'i ddechrau hyd ei ddiwedd y mae Cymru ar Hyd ei Glannau. Mae'n gyfrol sy'n dilyn yr 870 milltir o daith o gwmpas yr arfordir, o'r de i'r gogledd.
Newid cyson yw natur pob arfordir ac mewn cyfres o ffotograffau trawiadol fe ddaliodd Jeremy Moore ysbryd yr arfordir cyfnewidiol hwnnw a rhannu'r hyn a welodd â ni. Rhannu ei ymateb yntau i'r man cyfarfod rhwng daear a dŵr y mae Dei Tomos hefyd, ac wrth wneud hynny'n nodi grym gafael yr arfordir arnom. Golwg anarferol sydd yma ar ddiwydiant a diwylliant ac ar bentrefi a threfi a thrigolion ar hyd yr hen lannau hyn.
Mae'r geiriau a'r lluniau'n dystion huawdl i amrywiaeth lliwgar y daith o gwmpas ein gwlad - o ogofâu cudd i eangderau aberoedd ac o glogwyni'r canrifoedd sy'n herio'r elfennau i dwyni meddal cynnes. Dyma Gymru ar hyd ei glannau