Bydd plant ifanc wrth eu bodd yn agor yr amlenni lliwgar, sgleiniog yn y llyfr, tynnu'r llythyrau allan a gwrando neu ddarllen llythyrau arbennig Mrs Corn, Olwen yr Octopws, Arwel yr Arth, Elen yr Eliffant a Llinos y Llygoden Fach. Ond mae un llythyr ar goll ac mae Siôn Corn wedi drysu am ei fod wedi colli un llythyr arbennig iawn. Mae'r llygoden leiaf un yn benderfynol o ddod o hyd i'r llythyr hwn ac mae'n rhuthro drwy'r gweithdy i chwilio amdano. Ond tybed a ddaw'r llythyr i'r golwg cyn Noswyl Nadolig?
Yn ogystal â llythyrau, ceir rhestr siopa yn y llyfr, map i'w agor, llabedi i'w codi, ffenestri i sbecian drwyddyn nhw a diweddglo rhyfeddol sy'n sicr o swyno bob plentyn ac oedolyn! Gyda sêr aur yn disgleirio ar y tudalennau, mae naws y Nadolig wedi ei ddal rhwng cloriau'r llyfr arbennig hwn sy'n denu, difyrru ac ennyn chwilfrydedd y plentyn ifanc.
Addaswyd y llyfr i'r Gymraeg gan Catrin Beard o Aberystwyth ac fel mam ei hun, mae'r atgofion am gyffro plant adeg y Nadolig yn fyw iawn yn y cof.