Cyfres Swigod: Maestro
Mae Menna wedi dwlu'n llwyr ar geffylau ac yn treulio'i hamser sbâr i gyd yn gofalu am hen gobyn bach tew y bobl drws nesaf. Mae Jake, fodd bynnag, yn berchen ar geffyl mawr hardd o'r enw Maestro ac o'r farn bod ceffylau yn hen bethau diflas. Mae'r stori'n datblygu'n gelfydd a chawn ddarganfod pam mae Jake a'i fam wedi teithio o Bortiwgal i Gymru.