Patagonia - Croesi'r Paith/Crossing the Plain
Croesi'r Paith/Crossing the Plain
Paradwys oedd yr addewid. Ond anialwch a gafwyd. Ac ar ôl ugain mlynedd o grafu byw, penderfynodd yr ymfudwyr Cymreig i Batagonia taw digon oedd digon. Aeth cnewyllyn ohonynt tua'r gorllewin i chwilio am dir ffrwythlon yng ngodre'r Andes, 700 cilomedr a phum wythnos a hanner o daith ar gefn ceffyl. Dyma'r siwrnai a wynebodd Matthew Rhys 125 o flynyddoedd yn ddiweddarach.