Unwaith y flwyddyn, a dim ond unwaith y flwyddyn, daw'r ceffylau'r cymylau i lawr i'r ddaear. Does neb yn gwybod pryd yn union mae'n digwydd. Does neb yn gwybod ble yn union chwaith. Neb ond un... Hon yw nofel hudolus gyntaf yr awdur Jerry Hunter, a ysgrifennwyd yn dilyn anogaeth ei blant arno i rannu'r stori gyda chynulleidfa ehangach. Cyfrol swynol a thelynegol sy'n sicr o apelio at ddarllenwyr o bob oed.