Yn y Tŷ Hwn
Gan fod ei choes mewn plastar bu Anna'n gaeth i'w thŷ am wythnosau. Wrth i ni gerdded o gwmpas ystafelloedd Nant yr Aur yn ei chwmni fe sylweddolwn fod ei gorffennol ynghlwm wrth y tŷ a hynny ers degawdau. Ond erbyn i Anna gryfhau digon i allu cerdded heb ffyn baglau, mae'r gorffennol hwnnw wedi newid yn llwyr.