Tyner Yw'r Lleuad Heno
Drama newydd gan Meic Povey i gyd-fynd â thaith gan Theatr Genedlaethol Cymru yn ystod Hydref a Thachwedd 2009. Does dim fel cyfrinach i gadw teulu'n un - yn deyrngar, yn ofnus, yn euog ac yn bwysicach fyth, yn fud. Ym mhellafoedd cefn gwlad, mae'r gyfrinach yn cael llonydd. Ond yna daw ymwelydd o'r ddinas bell - un sy'n chwilfrydig, yn chwareus ac yn malio dim am ganlyniadau.