PWYSIG!
Gall pethau rhyfedd ddigwydd ar Ddiwrnod y Llyfr. Os bydd rhywbeth sbwci, cyffrous neu anturus yn digwydd i 'mhlentyn i ar y diwrnod hwnnw, fydda i ddim yn malio.
Dyna'r llythyr oedd gan blant Blwyddyn 3 yn Ysgol Llanllyfr i'w rhieni ei arwyddo un prynhawn o Chwefror. Ac roedd yna gystadleuaeth hefyd - Cystadleuaeth Gwisgo fel Cymeriad Mewn Llyfr. Ond doedd pethau sbwci, cyffrous ac anturus byth yn digwydd yn Llanllyfr. Hynny yw, nes i Sam Hopcyn gydio yn ei wasgod goch, ei batsyn llygad a'i het a gwisgo fel y môr leidr enwog Barti Ddu... 'A-HA-HA-HA!'