Dyw'r daith o Grymych i'r Barri ddim mor bell â hynny - onibai eich bod chi'n mynd heibio i Lunden y Swinging Sixties; stiwdios teledu Pontcanna, Croes Cwrlwys ac S4C; Gothenburg a Las Vegas - heb sôn am Glwb Golff Tydrath - ar y ffordd! Dyna rai o'r llefydd sydd ar siwrne bywyd Jenny Ogwen, Queen of Hearts carnifal Crymych yn 1952, Miss Pembrokeshire 1961, tywysoges hardd Siôn a Siân yn y saithdegau a brenhines y tywydd cyn bod sôn am Siân Lloyd na Derek! Wrth gwrs, buodd cael cwmni rhai fel Dai Jones Llanilar, Tom Jones a'r Tywysog Charles ar y ffordd yn help, heb sôn am ei phartneriaid golff a'i theulu hoff. Yn ei ffordd naturiol ei hun, mae Jenny Ogwen yn rhoi cip i ni ar fywyd un o wir selebs Cymru, tra'n dangos taw seren a ddaeth i'r brig heb anghofio'i gwreiddie yn y gorllewin yw hi