Hanner canrif ers yr Argyfwng, deuddeg mlynedd ers yr Haint, mae natur wedi troi ben i waered a'r byd wedi troi'n anialwch uffernol. Mae'r bobl sydd ar ol wedi eu corlannu fel defaid yn y Ddinas ar Ymyl y Byd.
Tu mewn i Wal y Ddinas mae pawb o dan ofal y Ceidwad ac yn byw mewn ofn rhag y Rhwydwyr. Ond beth sydd y tu hwnt i'r Wal a beth yw cyfrinach dywyll yr awdurdodau? Lawr ar y strydoedd mae rhai yn barod i sefyll yn erbyn y llanw, ond pwy yw'r ferch a marc y cylch ar ei hysgwydd?
Dyma nofel weledol ei naws, sy'n llawn tensiynau, cyffro ac uchafbwyntiau. Mae'n stori sy'n symud yn gyflym ac ynddi ceir elfennau arallfydol, cymeriadau cryf, plot byrlymus a throadau annisgwyl sy'n taro deuddeg.