Adolygiadau
Newydd orffen darllen 'Llanw' Manon Steffan Ros. Waw.
- @awensgiv
Wedi mwynhau hon yn fawr @BlodauGwylltion. Hudolus, swynol, ac ardderchog - diolch am rannu stori a chwedlau Llanw.
- @BethanLlyfrgell
Ew, am nofel wych. Wedi mwynhau Llanw gan Manon Steffan Ros yn arw. Beichio crïo ar adegau. Gwerth ei darllen.
- Heledd Fychan, @heleddfychan
Nofel wych - wedi darllen y frawddeg ola sawl gwaith! Ishe MWY!
- @vanbowen1
Mae'r arddull, fel y gellid disgwyl gan yr awdures ddawnus a synhwyrol hon, yn dawel grefftus.
- Meg Elis, Barn
Mae diniweidrwydd hoffus i gymeriad Llanw.
- Bethan Williams, Ffrwti.com
Cryfder diamau'r gyfrol yw prydferthwch telynegol a chyfareddol yr ysgrifennu. Mae'n apelio at y synhwyrau i gyd, gydag arogl a blas yr heli, awyrgylch gwesty'r Corbett a'i 'lonyddwch parchus', a'r disgrifiadau o bryderon, ofnau a hoffterau'r prif gymeriad yn gwbl fyw yn y dychymyg. Yng nghynildeb y dweud mae gogoniant y gwaith... Nid nofel i ruthro drwyddi yw hon, ond cyfrol i'w mwynhau fel gwin da, un gwydraid ar y tro, gan droi ei blas yn eich ceg a'i sawru'n foddhaus.
- Catrin Beard, Gwales
Does neb arall yn y Gymraeg yn ddiweddar sy'n gallu treiddio mor bell o grombil ei phrif gymeriadau ac y mae Manon yn llwyddo i'w wneud... Ar ddiwedd penodau yn 'Llanw', ceir chwedlau: rhai'n adnabyddus, rhai eraill yn newydd sbon. Dylid cyhoeddi'r chwedlau yma ar eu traed eu hunain: maen nhw'n hudolus ac yn haeddu eu lle yn ein llenyddiaeth chwedloniaethol.
- Ffion Dafis, Taliesin
Mae'r nofel hon yn arbennig - yn athrylithgar mewn mannau, hefyd.
- Branwen Niclas, Y Silff Lyfrau, BBC Radio Cymru