Fel Aderyn
Nofel sy'n dilyn hynt a helynt Mina a'i theulu yn ystod yr 20fed ganrif. Cawn hanes ei mam a'r modd y collodd ei gŵr yn yr Ail Ryfel Byd. Cawn hefyd stori Sybil, sy'n beichiogi yn dilyn perthynas gydag athro, yn ogystal â Leusa, merch i bysgotwr, a gafodd ei cham-drin gan ei thad. Nofel gofiadwy wedi'i lleoli yn ardal Tywyn/Aberdyfi.