Mae stori bywyd Gareth Jones yn darllen fel cyfuniad o storiau Indiana Jones a James Bond.
Fel newyddiadurwr ar ddechrau'r 1930au, ef oedd y cyntaf i gael cwmni Adolf Hitler mewn awyren ar ôl iddo gael ei ethol fel arweinydd. Ef hefyd oedd y cyntaf i ysgrifennu am y newyn erchyll yn yr Wcrain a choswyd gan Joseph Stalin - stori a ddaeth â sylw rhyngwladol iddo.
Cymro o'r Barri oedd Gareth Jones, ond daeth i adnabod arweinwyr pwysica'r byd. Yn anffodus, oherwydd ei waith fel newyddiadurwr roedd hefyd yn creu gelynion iddo'i hun.
Ychydig ddyddiau cyn cyrraedd ei ben-blwydd yn 30 oed cafodd ei herwgipio ac yna'i lofruddio...
Yn y llyfr hwn cewch ddarllen am fywyd o ddirgelwch a chyffro un o Gymry mwyaf diddorol yr ugeinfed ganrif.