Ieuan Rhys yn Dathlu 30 Mlynedd Fel Actor
Mae Ieuan Rhys, yr actor a'r diddanwr adnabyddus o Aberdâr, yn dathlu 30 mlynedd yn y byd actio proffesiynol drwy gyhoeddi hunangofiant dadlennol a diflewyn-ar-dafod. Rhwng cloriau Allet ti Beswch! mae'r diddanwr yn codi'r llen ar ei fywyd fel actor, tad, gŵr a ffrind gan rannu'r llwyddiannau a'r methiannau a fu'n rhan o'i yrfa liwgar mewn ffordd gwbl onest.
Mae Ieuan Rhys wedi gweithio ar nifer fawr o gynyrchiadau teledu, theatr, radio a ffilm yng Nghymru a Lloegr. O fod yn wyneb cyfarwydd fel Sgt. Glyn James, ar strydoedd y sebon Pobol y Cwm am dair blynedd ar ddeg, symudodd ymlaen i gyflwyno'r rhaglen gwis boblogaidd Siôn a Siân ar HTV a chwarae rhan yr heddwas, Sgt. Tom Swann, yn y gyfres Heliwr/Mind To Kill. Cafodd hefyd gyfle i ddod i nabod yr actor Hugh Grant, a'i gariad ar y pryd, Elizabeth Hurley, wrth actio yn y ffilm The Englishman Who Went Up a Hill And Came Down a Mountain.
Mae Ieuan yn rhannu'r teimladau o ansicrwydd ac iselder sy'n effeithio pob artist, a thrwy hynny ceir darlun cwbl agored sy'n mynd at wraidd actor. Fel mae'r hunangofiant ffraeth hwn yn dangos, mae digon o hwyl a direidi yn perthyn i'r dyn poblogaidd hwn. A gwelir hyn yn nheyrnged yr actor Ioan Gruffudd, un o'i ffrindiau ers dyddiau Pobol y Cwm, ar ddechrau'r hunangofiant.
Dysgir nad yw gyrfa actor wedi dod i ben pan na welir hwy ar y sgrin. Yn hytrach gellir dod o hyd iddynt yn diddanu mewn cynyrchiadau llwyfan lleol a rhyngwladol. Yn y blynyddoedd diwethaf mae Ieuan wedi gwireddu sawl breuddwyd, gan actio yn y gyfres boblogaidd Doctor Who ar BBC 1 a pherfformio ar lwyfan gyda'r National Theatre, Llundain yn y ddrama gomedi People gan Alan Bennett.
Os gewch chi byth y fraint o ddod yn ffrind 'da Ieu, fe fydd ffrind am oes gennych. Bu fel brawd mawr i mi yn ystod ein hamser yng nghast Pobl y Cwm, meddai'r actor Ioan Gruffudd, sy'n credu fod cyfraniad ac ymroddiad Ieuan i'r byd perfformio yng Nghymru yn bellgyrhaeddol.
Yn bwysicach na'r storïau rheiny yn y llyfr a achosith i chi fwldagu chwerthin, a'r rhai ddaiff â deigryn i'ch llygaid, fe gawn weld fod Ieuan wedi ymroddi'i hun, dim yn unig i'w grefft a'i deulu ond i'w iaith, meddai Gruffudd. Ma Ieu wedi troedio yn ddidrafferth fel artist dwyieithog, ond ry'm ni fel cenedl yn gyfoethocach, gan fod Ieu wedi ymroddi'i hun i berfformio a'n diddanu ni yn y Gymraeg ar hyd ei yrfa.