Oes, mae yna ddyn diddorol y tu ôl i'r llais, un fu mewn sawl swydd heb geisio am yr un ohonynt nac erioed gael cyfweliad, un sy'n ffigwr cenedlaethol ac eto'n ddyn ei filltir sgwâr, un sy mor gartrefol y tu ôl i lyw car rasio ag ydyw yn ei gadair gartref.
Darlenwch ac fe ddewch i'w adnabod yn well, i wybod am gefndir rhai o'r rhaglenni y bu'n ymwneud â hwy, ei brofiadau rhyfeddol gyda Radio Ceredigion, yng nghast y pantomeim yn Felin-fach, ar gaeau sioe a steddfod, a'i ymdrechion glew yn Ras yr Wyddfa ac ar daith gerdded gyda Rhys Meirion. Sut brofiad yw bod gyda Radio Cymru? Sut un yw Dai Jones i weithio gydag e? Hyn a mwy - llawer mwy - gewch chi wrth ddarllen Y Dyn Tu ôl i'r Llais.