Dyma hunangofiant gonest arwr timau rygbi Llanelli, Cymru a'r Llewod, Delme Thomas. Cyrhaeddodd y brig gyda'i glwb, ei wlad ac yn rhyngwladol dros gyfnod o 15 mlynedd o chwarae. Cafodd ei ddewis i fod yn rhan o dîm y Llewod am y tro cyntaf yn 1966 ac yntau bryd hynny heb gael cap dros ei wlad hyd yn oed. Bu hefyd yn gapten ar ei glwb, Llanelli, ac ef oedd yn eu harwain adeg y fuddugoliaeth enwog honno yn erbyn y Crysau Duon ar y Strade yn 1972. Daeth yn enw adnabyddus ledled y byd rygbi, gan ennyn parch yn y maes - ac mae'r parch hwnnw yno o hyd.
Nid penderfyniad hawdd iddo oedd rhoi'r gorau i chwarae rygbi ac fe ddioddefodd Delme gyfnod tywyll o iselder yn dilyn hynny. Dim ond nawr mae wedi gallu mynd ati i gofnodi ei hanes yn y gyfrol hirddisgwyliedig hon.