Ym mis Medi 2012 daeth enw Aled Sion Davies yn gyfarwydd drwy'r byd i gyd wrth iddo ennill medal aur am daflu'r ddisgen yng Ngêmau Paralympaidd Llundain. Dau ddiwrnod cyn hynny roedd wedi ennill medal efydd am daflu'r siot. Yn 21 mlwydd oed roedd yn un o'r athletwyr ifancaf a mwyaf llwyddiannus yn nhîm Prydain. Yn "Aled a'r Fedal Aur" cewch ddarllen ei atgofion a rhannu ei falchder wrth iddo gyrraedd y brig. Cewch hefyd ddarllen am yr heriau sy'n ei wynebu bob dydd a'r triniaethau mae wedi eu derbyn i'w baratoi ar gyfer gwisgo crys coch Cymru yng Ngêmau'r Gymanwlad 2014.