Dyma lyfryn amserol a phwysig sy'n archwilio ffiniau'r ffydd Gristnogol. Yn Ffiniau ac Arfordir Ffydd mae'r Pryderi Llwyd Jones, awdur y gyfrol Iesu'r Iddew a Cymru 2000 (y Lolfa) a gyhoeddwyd i ddathlu'r mileniwm - yn trafod ffiniau o bob math.
Rhwng cloriau'r gyfrol ceir trafodaeth ar weledigaeth George MacLeod, emynau John Bell a sylw i J P Davies, ond canolbwyntir yn bennaf ar Gymuned Iona a sefydlwyd yn 1938. Gwahoddwyd yr awdur gan Fwrdd Darlith Davies i draddodi'r Ddarlith Flynyddol yn y Gymanfa Gyffredinol yn 2012, ac er bod bwriad eisoes i gyhoeddi cyfrol ar sail y ddarlith, yr oedd y ffaith fod Cymuned Iona yn dathlu, yn 2013, 75 mlynedd ers ei sefydlu yn fwy o ysgogiad i'w chyhoeddi fel darlith.
"Mae'r ffydd Gristnogol yn ffydd sydd wedi croesi ffiniau o'r dechrau, gan ymwrthod a therfynau o bob math," esboniai Pryderi Llwyd Jones, sy'n hanu'n wreiddiol o'r Ffôr, ger Pwllheli. "Mae digon o enghreifftiau cyffrous o hyn i'w weld yn y Ffydd ac ym mywyd yr eglwys. Un enghraifft yn unig yw Cymuned Iona, ac mae'r gymuned honno yn cynnig arweiniad a her i eglwysi yng Nghymru."
Meddai Emlyn Davies, Cyn Prif Gomisiynydd Rhaglenni S4C, "Mae Ffiniau ac Arfordir Ffydd yn gyfrol amserol a phwysig ei chenadwri sy'n llwyddo i'n herio a'n calonogi'r un pryd, a hynny mewn modd hynod ddifyr a darllenadwy. Mae'r awdur yn ein hatgoffa mai bywyd o groesi ffiniau trwy gyfannu ac iacháu oedd gweinidogaeth yr Iesu, a dyna'r her i'r Cristion o hyd."
"Heddiw mae pobl yn sylweddoli na allwn sefyll ar y glannau yn flinedig mewn uniongrededd digyffro," ebe'r gweinidog, y diwinydd a'r awdur Cynwil Williams. "Mae'r eglwys yn bod i groesi ffiniau pell ac agos. Mae gan yr awdur weledigaeth broffwydol."