Cyfieithiad o "Atyniad".
Mae archeolegydd Deian yn dychwelyd i ynys ei blentyndod, ble diflannodd ei fam. Mae'r Chwaer Viv, sydd yn heretic yn y bon, a gwesteiwraig y gynhadledd meudwyaid blynyddol, wedi codi plac aur er coffadwriaeth sy'n datgan ei bod yn sant.
Yn y cyfamser mae Leri, cynhyrchydd rhaglenni dogfen, yn awyddus i bortreadu preswylwyr yr ynys fel unrhywbeth heblaw sanctaidd, gan ddilyn trywydd stori sydd a dim i'w wneud ag adar ac esgyrn seintiau, ond yn hytrach gyda thywallt gaed go iawn.
Yn ystod yr wythnos yma ym mis Awst chwilboeth, mae awdur preswyl yn arsylwi ar fywydau'n gwrthdaro, tra bo Ynys Enlli yn chwyldroi i'r camerau unwaith yn rhagor...
Comedi dywyll am ddarganfyddiadau, colledion, cyfrinachau, preifatrwydd ac ymyrraeth, a fel mae'r pethau pwysicaf yn digwydd pan fo'r camerau yn gwynebu'r ffordd arall.