Dyma stori am fywyd hynod Thomas Jones, a dyfodd i fyny heb dad a chael ei fwlio yn yr ysgol yng Nghymoedd de Cymru. I amddiffyn ei hun, cafodd y bachgen saith mlwydd oed wersi bocsio gan ei fam-gu. Pan oedd yn bedair ar ddeg, aeth i weithio fel glowr a goroesi llif yn y pwll glo. Dwy flynedd yn ddiweddarach, mae wedi ymuno a'r Fyddin Brydeinig ac yn ymladd yn yr Ail Ryfel Byd cyn cael ei glwyfo a'i anfon adre o Dunkirk. Ar ddychwelyd i dde Cymru mae'n hyfforddi i fod yn athro ac mae'n setlo i fywyd yn y cymoedd, yn dechrau pennod newydd arall yn ei fywyd ifanc.
Mae'r nofel hon yn cyfuno sawl stori a gafodd effaith ar fywydau llawer iawn o Cymry yn hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif. Roedd Thomas yn byw yn ystod amser caled iawn ond, yn y diwedd, roedd e'n un o'r rhai ffodus...