Mae bywyd Mal Pope yn un llawn cyferbyniadau. Pan yn fabi ym mreichiau ei fam, aed ag ef i'r capel i wrando ar emynau Cymraeg yn cael eu canu'n ddigyfeiliant. Ddeuddeg mlynedd yn ddiweddarach, cafodd y bachgen o Abertawe ei wahodd i ganu can ar raglen John Peel ar Radio 1.
Bu'n gapten tim peldroed y Swansea Schoolboys ac enillodd radd mewn Economi Tir o Brifysgol Caergrawnt. Ond cerddoriaeth a pherfformio yw ei brif nwydau.
Mae Mal Pope wedi ysgrifennu caneuon ar gyfer Cliff Richard a'r Hollies, wedi canu deuawd gyda Elton John a Bonnie Tyler, wedi teithio gyda Art Garfunkel a Belinda Carlisle ac wedi cynhyrchu recordiau i Aled Jones. Fel darlledydd, mae e wedi cyflwyno rhagleni ar y BBC ac wedi gwesteio'r rhaglen gerddoriaeth "The Mal Pope Show", a enillodd wobr BAFTA, i ITV Wales. Mae wedi cwrdd ac wedi geithio gydag enwogion megis Dr Rowan Williams, yr Anrh Neil Kinnock a Catherine Zeta-Jones. Mae ei stori yn un rhyfeddol.