Berlin, 1929. Mae'r ddinas yn nesau at drychineb yn wyneb chwyddiant economaidd, ond mae'r plentyn amddifad saith-troedfedd, Iddewig, Esther Rosenbaum, yn paratoi gwledd i'w ffrindiau.
Dyma'r artistiaid, y bohemiaid a'r cyfansoddwyr cabaret sydd wedi blasu ei bwyd gorau ym mwyty chwedlonol Schorns ac sydd yn credu mai hi yw cogydd gorau'r Almaen. Ond dyma fywyd wedi'i adeiladu ar sugndraeth: perchennog Schorns yw Leon Wolf, dyn du hoyw, ond caiff y bwyty ei noddi gan y Natsiaid.
Mae Esther, oedd unwaith yn bresenoldeb tyrog yn ei sgertiau tapestri paun, wedi dechrau gwisgo fel dyn er mwyn cydweddu i strydoedd tywyll, milain Berlin.
Mae'r cogydd sydd a'r gallu i greu danteithiau megis calonnau siocled wedi'u stwffio gyda saffron, wedi peidio bwyta ac yn gyflym troi yn groen am asgwrn.
Gan ddefnyddio realaeth hudol, mae Penny Simpson yn consurio elfennau ffantasiol er mwyn dangos sut all coginio fod yn ddull o adrodd stori, a sut all defnyddio dychymyg fod yn weithred o danseilio a goroesi.