Owain Gwynedd Prince of the Welsh
Astudiaeth o fywyd a gyrfa Owain Gwynedd (c.1100-70) a chwaraeodd ran mor allweddol yn hanes Cymru cyn i'r wlad gael ei gorchfygu. Ef oedd brenin Gwynedd o 1137 hyd at ei farwolaeth, ac ef oedd y cyntaf i'w alw yn dywysog Cymru. Fe'i cyfrifid y tywysog mwyaf llwyddiannus yng ngogledd Cymru hyd at deyrnasiad ei ŵyr Llywelyn Fawr.