The Scrum that Changed my Life
Hunangofiant dirdynnol Yogi, y chwaraewr rygbi a barlyswyd wrth chwarae rygbi i'r Bala. Dyma un o straeon tristaf ac anoddaf y byd rygbi yn y blynyddoedd diwethaf. Roedd Yogi yn 49 oed, ac yn chwarae ei gêm olaf i'r Bala, lle gwnaed ef yn gapten am y dydd, ond o fewn deg eiliad, chwalwyd ei fywyd yn llwyr. Datgymalodd sgrym gynta'r gêm, a thorrodd Yogi ei wddwg.