Ymuno â'r shifft olaf wrth i'r pwll olaf yng Nghwm Gwendraeth gau am byth... bachu Ron Davies, pensaer datganoli, yn union ar ôl ei ymddiswyddiad yn Ysgrifennydd Cymru... dilyn gyrfa canwr o'r enw Bryn Terfel yn y coleg, a'r pêl-droediwr ifanc Gareth Bale wrth iddo ennill ei le yn llyfrau hanes pêl-droed Cymru.
Roedd Golwg yno, ac mae'n parhau i fod yno wrth ddathlu carreg filltir bwysig yn 25 oed.
Golwg yw'r unig gylchgrawn newyddion a materion cyfoes wythnosol Cymraeg, a'r cyntaf i rannu rhai o'r straeon mwyaf yn hanes diweddar Cymru, i gyfweld rhai o'r bobol amlycaf yn y newyddion ac i sylwi ar dueddiadau o bwys. Dylan Iorwerth, Golygydd Gyfarwyddwr Golwg, sydd yn dewis a dethol y casgliad cyfoethog hwn o rai o erthyglau a lluniau mwyaf cofiadwy Golwg. Mae'n cyflwyno'r cyfan ynghyd ag ychydig o hanes difyr y cylchgrawn, o'r cyfnod sefydlu i lansio Golwg 360 ar y We ac ymlaen hyd heddiw.
Trwy eiriau gwahanol newyddiadurwyr a cholofnwyr - a thrwy luniau rhai o'r ffotograffwyr - mae'r gyfrol hardd hon yn dangos y newidiadau a'r datblygiadau a fu yng Nghymru yn ystod y 25 mlynedd diwethaf ym myd materion cyfoes, gwleidyddiaeth, y celfyddydau a chwaraeon.
O'r noson pan welwyd Cymru'n pleidleisio o fymryn o blaid cael Cynulliad i ymgais yr heddlu i ddal Meibion Glyndŵr a straeon personol dirdynnol fel brwydr y gantores Gwenda Owen yn erbyn canser ac ymateb un bardd i lofruddiaeth April Jones, 5 oed, o Fachynlleth, mae'r straeon hyn i gyd a mwy rhwng cloriau Golwg ar Gymru.