Cyfrol llawn ysgrifau a lluniau difyr am hanes Caernarfon a'i phobl, sy'n cynnig blas o'r hyn mae darllenwyr Papur Dre wedi'i brofi wrth ddarllen erthyglau T. Meirion Hughes.
Tabl Cynnwys:
Mae'r gyfrol wedi'i gosod mewn pedair adran, â lluniau i gyd-fynd â phob erthygl:
1. Caernarfon a'r Môr
2. Enwogion a Rhai o Bobl Dre
3. Crefydd ac Adloniant
4. Amrywiol Hanesion
"Fel hanesydd lleol mae gan Meirion y ddawn ddiamheuol o gyflwyno'r hanes mewn dull cartrefol braf sydd yn gwneud y cyfan yn fyw ac yn ddiddorol ac yn gwneud i'r darllenydd awchu am fwy o'r hanes. Nid oes amheuaeth y bydd cyfraniad Meirion i'w hanes lleol yn cael ei werthfawrogi am genedlaethau i ddod. Mae ei erthyglau yn drysor o'r radd flaenaf a bellach gyda chyhoeddi'r gyfrol hon bydd Cymru gyfan yn cael cyfle i'w gwerthfawrogi a'u mwynhau." Glyn Tomos