Prinhau medden nhw y mae cymeriadau cefn gwlad, ond mae rhai ar ôl o hyd, a dyma gyfrol yn adrodd hanes un ohonyn nhw, un o hen yd y wlad a gwerinwr go iawn. Dyn ei filltir sgwâr yn sicr, yn ymwneud â phob agwedd ar ddiwylliant a chymdeithas yn lleol, crefftwr medrus yn ogystal, yn waliwr a phlygwr gwrych tan gamp, a chanddo ddiddordeb arbennig mewn hen gelfi a hen offer.
Ond mae'n fwy na hynny, yn ffigwr cenedlaethol hefyd ac yn enillydd Gwobr Goffa Llwyd o'r Bryn ym maes llefaru. Teithiodd yn helaeth dros Gymru i eisteddfodau a chyngherddau a chewch bleser a diddanwch wrth ddarllen ei hanes gan ymfalchio yr un pryd fod ein cenedl yn parhau i gynhyrchu cymeriadau diddorol sy'n addurn i'w bro a'u gwlad.