Anturiaethau Twm Sion Cati - Llyfr 2
Anturiaethau Twm Sion Cati a Tim y ci.
Gwaith cartwn gan y diweddar Geoffrey Evans. Y geiriau gan Dewi Lewis.
Llyfr 2 - Dianc o Dregaron
Mae Twm yn dod wyneb yn wyneb â Dan Dorbel, y lleidr penffordd ffyrnig. Mae Dan yn dwyn Fflach, ceffyl Twm neu, yn hytrach, ceffyl y Sgweiar. Wrth ail gychwyn ar ei daith ar droed mae Twm yn dod ar draws llwyth o sipsiwn ac maen nhw'n dod yn ffrindiau mynwesol. Mae Twm, a Tim, wrth gwrs, yn mynd gyda nhw i Ffair Aberteifi. Yn y ffair maen nhw'n dod ar draws Sgweiar Graspacre, Marmaduke ei fab a'r Beiliff dialgar unwaith eto. Darllenwch am yr holl gyffro yn y ffair wrth i Twm geisio dianc rhagddynt. Fydd e'n llwyddo? Mae'r ateb yn y llyfr.
Yr elw i gyd tuag at Ysbyty Plant Cymru drwy Apêl Arch Noa.
(Cyhoeddir gan Dewi Lewis)