Yn dilyn llwyddiant Cymru: Y 100 Lle i'w Gweld Cyn Marw, dyma gyfrol hardd arall i'w thrysori sy'n cyfuno gair a llun.'
Ble mae'r pentwr bach o gerrig sy'n cofnodi cof gwlad a chwedl y dywysoges Branwen? Pa fath o le ydi'r cwm teg y mae'r bardd Eifion Wyn yn canu ei glodydd yn un o gerddi enwocaf Cymru? Beth ydi hanes creigiau Aberdaron a thonnau gwyllt y môr sy'n dod yn fyw yng nghanu Cynan?
Mae'r llyfr trawiadol hwn yn arwain y darllenydd i 50 o'r lleoliadau pwysicaf a hynotaf sy'n ymwneud â llenyddiaeth Cymru. Gyda thestun gan un o brif ysgolheigion y Gymraeg, yr Athro Gwyn Thomas, a lluniau hyfryd gan y dewin dynnwr-lluniau Geraint Thomas, fe ddaw hynt a hanes pob un o'r lleoliadau yn fyw o flaen eich llygaid.
Mae Gwyn Thomas, trwy ei eiriau, yn rhoi blas ar y cysylltiadau llenyddol ac mae Geraint Thomas yn cyfleu naws arbennig pob lle - o'r gymuned yn Rhosgadfan a ysbrydolodd Kate Roberts, brenhines ein llên, i gartref Seisnig Saunders Lewis yn Wallasey, Lerpwl. Beth am ymuno â'r daith gofiadwy, ac annisgwyl o dro i dro?