Dau dditectif. Dwy ffrind. Dau frawd. Un dyn drwg.
Yn y dyfodol agos mewn gwlad debyg iawn i'r Gymru gyfoes, mae lladron meistrolgar yn dwyn o dan drwynau crachach Gerddi Hwyan, gan gythruddo a drysu Aled Colwyn a Richard King, y ditectifs sydd ar eu trywydd.
Yn y cyfamser, mae Catrin yn poeni'n arw am ei ffrind gorau a'i phartner busnes, Ceri, sy'n cael ei cham-drin gan ei gwr; tra bod y brodyr Morgan a Prys Caradog yn lladd eu hunain ar ran busnes adeiladu eu hewythr, Mr C, heb dderbyn y clod a'r wobr ariannol maen nhw'n eu haeddu.
Ond wrth i fywydau'r cymeriadau canolog blethu a chymhlethu y tu hwnt i'w rheolaeth mae'r hanes yn cyrraedd uchafbwynt ysgytwol yn ucheldiroedd Eryri. A fydd dihiryn go iawn y nofel yn cael ei haeddiant?