Enillodd Dwayne Peel 76 cap am chwarae rygbi dros ei wlad, mwy nag unrhyw fewnwr arall o Gymro, a bu'n ddewis cyntaf i dîm y Llewod mewn Cyfres Brawf yn erbyn y Crysau Duon. Ar ôl gyrfa lwyddiannus ar Barc y Strade, lle y dechreuodd chwarae i'r Scarlets pan oedd yn ddisgybl yn Ysgol Maes yr Yrfa, Cwm Gwendraeth, penderfynodd symud i glwb Sale yn 2008. Yno, chwaraeodd yn rheolaidd ym Mhrif Gynghrair Lloegr.
Yn y gyfrol hon, mae Dwayne yn sôn am ei brofiadau fel chwaraewr rygbi yng Nghymru, Lloegr, ac ar draws y byd, yn ogystal â mynegi ei siom o gael ei anwybyddu ar y lefel ryngwladol yn ystod y blynyddoedd diwethaf.