Y Dyn Gwyrdd
Un tro - yn reit ddiweddar, a dweud y gwir - roedd bachgen ifanc o'r enw Derwyn yn byw efo'i rieni mewn hen fwthyn yn y goedwig. Dysgai ei fam yn yr ysgol gynradd a'i dad yn yr ysgol uwchradd. Anodd iawn oedd dweud pa un ohonyn nhw oedd yn cwyno fwyaf.