Stori Tony. Stori Aloma. Stori Tony ac Aloma.
Dyma hanes hirddisgwyliedig y ddau benfelyn o Fôn a ddaeth yn un o ddeuawdau mwyaf poblogaidd Cymru.
Am y tro cyntaf, mae'r ddau'n cofnodi holl droeon eu gyrfa: o'r cyfarfod damweiniol cyntaf hwnnw un noson braf o haf yn 1964... hyd heddiw, a'r ddau - ynghyd â Roy, gwr Aloma - yn rhedeg gwesty enwog y Gresham yn Blackpool.
Fe ddatgelir y gwir am berthynas y ddau, yn eu geiriau eu hunain, a cheir hanes gyrfa lewyrchus sydd wedi ymestyn dros bron i hanner canrif. Cawn fod yn rhan o fwrlwm y sîn bop Gymraeg yn y 60au a'r 70au wrth i'r ddau ail-greu cyffro'r cyngherddau di-ri a'r cyfresi teledu. Mae'n gofnod o gyfnodau anodd i'r berthynas hefyd, gyda thensiynau yn brigo i'r wyneb a Tony ac Aloma yn dioddef cyfnodau o afiechyd.
Ar ôl rhannu eu caneuon am flynyddoedd maith, maen nhw'n barod yn awr i rannu eu stori nhw, y gerddoriaeth a'r gyfeillgarwch.