Cyfrinachau Llynnoedd Eryri
Llyfr dwyieithog deniadol sy'n ffrwyth llafur blwyddyn gyfan yn ymweld â holl lynnoedd Parc Cenedlaethol Eryri. Yn ogystal â'r ffotograffau bendigedig ceir hanes rhai o'r chwedlau sy'n gysylltiedig â'r llynnoedd. Mae'r awdur, Geraint Thomas, yn adnabyddus fel ffotograffydd o'r radd flaenaf, ac ef yw perchennog oriel Panorama yng Nghaernarfon.