Bois y Loris
Pwy yw'r dynion a'r menywod sy'n gyrru loris ar y ffordd fawr? Pwy yw'r cymeriadau sy'n aelodau o Glwb Bois y Loris Geraint Lloyd ar BBC Radio Cymru? 'Dyma'r bois sy'n symud cynnyrch o amgylch Cymru a'r byd. Mae diwylliant y gyrrwr lori yn un sy'n effeithio arnom ni i gyd,' meddai Owain Llŷr. Dyma stori bois y loris mewn gair a llun.