Dyma stori menyw sydd â'i gwreiddiau'n ddwfn yng nghefn gwlad Sir Gâr ond a fynnodd ddilyn ei breuddwyd, torri ei chwys ei hun a mentro i fyd y ddrama, er bod actio'n broffesiynol yn cael ei ystyried yn dipyn o fenter i fenyw yn y cyfnod. Teithiodd Gymru benbaladr gyda'i gwaith, gan ymddangos ar lwyfan a theledu, a chan fwynhau'r cymdeithasu a'r partio a ddoi yn sgil hynny hefyd.
Hyd yn oed yn blentyn roedd Sharon Morgan yn dwlu perfformio, ac ymddangosodd yn y perfformiad cyntaf erioed o Dan y Wenallt yn ei dyddiau ysgol. Roedd yn un o'r criw o actorion ifanc brwdfrydig a arloesodd ym myd y theatr Gymraegm gan sefydlu cwmni theatr Bara Caws yn 1977, a hyd heddiw mae'n denu sylw am ei rhan yn y ffilm Grand Slam.
Yn "Hanes Rhyw Gymraes" cawn giopolwg ar y 'fi go iawn', a chyfle i rannu profiadau'r Gymraes hon o weithio â rhai o fawrion byd y theatr yn ei dyddiau cynnar, yn ogystal â hanes yr helyntion a'r carwriaethau tu ol i'r llen.