Daeth tro ar fyd Meic Stevens yn ddiweddar. Ar ôl bywyd llawn hynt a helynt, penderfynodd ymfudo i dawelwch Dyffryn Comox, Canada, a dechrau cyfnod newydd. Cyn mynd, aeth ati i ysgrifennu cofnod diflewyn ar dafod am ei gariadon, ei deulu a'i blant, ac am y profiad o greu rhai o ganeuon mwyaf eiconig yr iaith Gymraeg o'r 1970au hyd at hediw.
"Taro pethe ar bapur ar drenau 'nes i, mewn barre ar hyd a lled Cymru, mewn gwestai yn Llydaw, ar ôl gigs yn orie mân y bore, ac ar longe fferi," meddai Meic. "Mae'r llyfr yn debycach i ddyddiadur na hunangofiant."
Mae'r trwbadwr yn dod â'r darllenydd at stori garu y presennol, "a'r dyddiadur wedi dod yn debycash i lythyr at ffrind mynwesol. Dwi'n sgrifennu yn fy ffordd fach fy hunan, am fy mywyd i fy hunan. Daliwch i ddarllen, os meiddiwch chi!"