Kelly, Kirsty a Karina - KKK - tair o ferched caled y dref fel y Ku Klux Klan. Dyna rai o drigolion stad Rhyd-y-felin.
Ymhlith y cymeriadau brith yno hefyd mae Scott Andrews - y gwerthwr cyffuriau a gafodd beg dur wedi'i ddyrnu i mewn i ganol ei dalcen.
Mae Ffion, y gyrrwr tacsi, a Josh ei mab yn gymeriadau pwysig yn y nofel gyffrous hon. Mae Josh mewn cariad efo Mari sy'n byw yn Heol y Garn, ardal lawer mwy cefnog.
Yn dilyn llofruddiaeth Scott cafodd dau arall eu lladd. Ond pwy yw'r llofrudd? Dyna'r cwestiwn mae'n rhaid i Arthur a DI Jenny James ei ateb.
Dilyniant i "Tacsi i'r Tywyllwch".