Pel-droediwr a ddaeth yn ffefryn cenedl, yn chwaraewr caled a dawnus yn rhoi o'i orau wrth chwarae dros Gymru.
Cawn ei hanesion wrth chwarae i dimau fel Luton, Millwall, Arsenal ac wrth gwrs Celtic. Cawn gipolwg ar ei brofiadau wrth wisgo crys Rhif 9 a hanesion am yr amddiffynwyr cadarn y chwaraeodd yn eu herbyn. Mae'n rhoi ei farn am reolwyr y gwahanol glybiau y bu'n chwarae iddyn nhw ac yn fodlon enwi'r rheolwr gwaetha a fu ar Gymru erioed.
Un a fu'n fodlon brwydro ar y cae oedd John, ond bu'n rhaid iddo frwydro oddi ar y cae hefyd. Cawn hanes ei fywyd yn ystod blynyddoedd ei afiechyd difrifol, drwy ei lygaid ef a thrwy eiriau ei fam.
Bydd darllen y gyfrol hon yn ysbrydoliaeth nid yn unig i chwaraewyr ifanc ond hefyd i rai sy'n dioddef o afiechyd wrth glywed am ei ymdrech i goncro'i salwch.