Yn ol rhai mae'r llyfr yma'n gyfuniad o rants Jeremy Clarkson a hiwmor cefn gwlad. Dyma Ifan Gruffydd ar ei focs sebon yn dweud ei ddweud am y byd ffermio, tractors, hyrddod, y Sioe Amaethyddol a rhai o arferion rhyfedd ffermwyr Cymru...
Pam bod ffermwyr yn mynnu gwisgo capie? Pam bod bwyd yn y Sioe Amaethyddol mor 'ofnadw o ofnadw'? Pam bod ffermwyr yn achwyn cymaint? Pe bydde achwyn yn gamp yn y Gemau Olympaidd fe fydde'r ffarmwr yn hanner crogi efo medalau aur.
Fe gewch chi hwyl yn gweld be sy'n poeni Ifan, a sawl chwarddiad o ddarllen y jocs sydd ar ddiwedd pob pennod. A felle gewch chi hefyd ysbrydoliaeth o ddarllen y farddoniaeth sydd wedi ysbrydoli pobol cefn gwlad, fel Ann Jones gynt o Gartheli:
O ben mynydd Tychrug rwy'n gweled,
Defed a defed a defed,
A defed a defed,
A defed a defed,
A defed a defed a defed.