Mae'n debyg mai fel arweinydd nosweithiau llawen y bydd Peter Hughes Griffiths yn fwyaf cyfarwydd i bobl Cymru, ac yntau wedi difyrru cynulleidfaoedd am flynyddoedd lawer â'i hiwmor ffraeth a'i hanesion am gymeriadau lleol Sir Gâr.
Ond dim ond un llwyfan yw hwnnw o blith nifer fawr o lwyfannau y mae Peter wedi'u troedio dros y blynyddoedd, ac yn y gyfrol hon mae'n ein harwain O Lwyfan i Lwyfan wrth roi cip ar fwrlwm a phrysurdeb ei fywyd ac yntau bellach wedi cyrraedd oed yr addewid.
Mae'n dal i fod yn ffigwr amlwg ar y llwyfan gwleidyddol fel arweinydd grwp y Blaid ar Gyngor Sir Caerfyrddin, ac yntau wedi bod yn ymgyrchydd diflino dros Blaid Cymru ers ei ddyddiau ysgol yn y 1950au, a chydweithiodd yn agos â Gwynfor Evans yn ystod ymgyrch Gwynfor i ymprydio dros sefydlu sianel deledu Gymraeg.
Bu hefyd yn bel-droediwr, yn actor, yn adroddwr digri, yn awdur ac yn ddramodydd, heb son am ei swydd gyntaf dra phwysig fel aroglwr llaeth!
Ymunwch ag ef felly wrth iddo fwrw cipolwg difyr yn ol ar lwyfannau'i fywyd, o'r eisteddfodol i'r crefyddol, ac o'r teuluol i lwyfan bro Sir Gâr, sy'n agos iawn at ei galon.
Un dewr, a'i dafod arian
Yn ein tir yn cynnau tân.
Un dynol a di-weniaith,
Yn daer dros ei wlad a'i iaith.
(T Gwynn Jones, Abergwaun)