Cyfrol sydd yn trafod cred mewn bywyd wedi marwolaeth, cysyniad sydd wedi'i engreinio yn seices pobl ym mhobman. Mae wedi'i hysgrifennu o safbwynt Cristnogol ond mae'n ymgorffori credoau sawl ffydd arall, yn enwedig yr honiad Islamaidd i Iesu Grist beidio marw ar y groes.
Mae Dewi Rees yn ystyried y dystiolaeth am gredu mewn bywyd ar ol marwolaeth o'i safbwynt fel meddyg. Cawn farn chwe-deg-saith o esgobion wedi ymddeol ar yr Atgyfodiad a'u profiadau o bresenoldeb Crist.
Yn ail cawn ddisgrifiadau o weledigaethau: pobl sydd wedi cwrdd â Iesu yn ddiweddar, gan gynnwys enghreifftiau ble mae'r person yn argyhoeddiedig ei fod wedi gweld Crist ar ei ffurf dynol.
Yn drydydd mae'r awdur yn adolygu ymchwil diweddar ar brofiadau pobl wedi iddynt golli cymar, ac yn ystyried ei berthnasedd i ddealltwriaeth o'r gred mewn bywyd wedi marwolaeth ac athrawiaeth Cristnogol ar yr Atgyfodiad.